....Striving to be the best in everything we do..Yn ymdrechu i fod y gorau ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud....

....

Striving to be the best in everything we do

..

Yn ymdrechu i fod y gorau ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud

....

....

As poultry feed and pullet specialists with an 90-year history, we are committed to increasing the productivity of our customers.  We strive to be the best in all that we do and are continually investing in our plant, equipment and manpower to advance poultry performance.

Our quality control process covers the sourcing of raw materials through every stage of feed production, and delivery, allows our customers to be confident of the integrity of its feeds.  The same approach and attention to detail covers our pullets.

Quality Control

The Universal Feed Assurance Scheme
In our poultry feed business we follow and are audited against the Universal Feed Assurance Scheme (UFAS), an internationally recognised standard for raw material traceability, feed manufacture, quality and hygiene of storage, production and transport. 

Organic Farmers and Growers
For our organic poultry feed manufacture, we have been registered Organic Farmers and Growers (OF&G) since 1996.  Under this scheme we are regularly audited by the European Food Safety Inspection Service (EFSIS) which is accredited for EN45004 (Inspections) and EN45011 (Certification).

Freedom Food
We follow the RSPCA’s farm assurance for the rearing or our pullets.  It covers every stage of a bird’s development in rear.  Each stage is governed by strict and compulsory RSPCA welfare standards.

Some retailers have their own additional quality requirements, and we are regularly audited by the British Retail Consortium approved auditors.

..

Fel cwmni sy’n arbenigo mewn cywennod a bwyd dofednod gyda hanes 90 mlynedd, rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu cynhyrchiant ein cwsmeriaid.

Rydyn ni’n ymdrechu i fod y gorau ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud, ac rydyn ni’n buddsoddi yn ein peiriannau, ein cyfarpar a’n gweithlu byth a hefyd i hyrwyddo perfformiad dofednod.

Mae ein proses rheoli ansawdd sy’n cwmpasu cael gafael ar ddeunyddiau crai trwy bob cam o gynhyrchu bwyd, a’i ddanfon, yn caniatáu i’n cwsmeriaid fod yn hyderus ynglŷn ag uniondeb eu bwydydd.

Rydyn ni’n gweithredu yn yr un modd ac yr un mor fanwl yn achos y cywennod.

Rheoli Ansawdd

Cynllun Sicrwydd Bwyd Anifeiliaid Byd-eang

Yn ein busnes bwyd dofednod, rydyn ni’n dilyn y Cynllun Sicrwydd Bwyd Anifeiliaid Byd-eang (UFAS), ac yn cael ein harchwilio yn ei erbyn. Safon yw hon a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer olrhain, gweithgynhyrchu bwyd, ansawdd a hylendid deunyddiau crai wrth eu storio, eu cynhyrchu a’u cludo.

Organic Farmers and Growers

Rydyn ni wedi’n cofrestru â’r Organic Farmers and Growers (OF&G) ers 1996 ar gyfer gweithgynhyrchu ein bwyd dofednod organig. Mae’r Gwasanaeth Arolygu Diogelwch Bwyd Ewropeaidd (EFSIS) yn ein harchwilio’n rheolaidd dan y cynllun hwn sydd wedi’i achredu ar gyfer EN45004 (Archwilio) ac EN45011 (Ardystio).

Bwyd Rhyddid

Rydyn ni’n dilyn sicrwydd fferm yr RSPCA ar gyfer magu ein cywennod. Mae’n cwmpasu pob cyfnod o ddatblygiad aderyn wrth ei fagu. Mae safonau llesiant llym a gorfodol yr RSPCA yn berthnasol i bob cyfnod.

Mae gan rai manwerthwyr eu gofynion ansawdd ychwanegol eu hunain, ac mae archwilwyr cymeradwy Consortiwm Manwerthu Prydain yn ein harchwilio’n rheolaidd.

....